Yn y cyfnod yma, daeth yn arferiad i gynnal cystadleuaeth i lunio'r gadair farddol yn Adran Celf a Chrefft yr Eisteddfod. O flwyddyn i flwyddyn cynhyrchwyd cadeiriau gwbl unigryw gan grefftwyr amatur a phroffesiynol.
Enillodd y gadair hon y wobr am y gadair farddol orau yn y gystadleuaethyn Eisteddfod Llandudno 1896. Cerfiwyd y gadair hon gan Henry Williams o Fôn ac mae'n dilyn patrwm cadair farddol draddodiadol: cadair dderw anferth wedi ei cherfio â symbolau Gorsedd y Beirdd ynghyd ag enw a dyddiad yr Eisteddfod. Henry Williams oedd gwneuthurwr cadair 1895 yn Eisteddfod Llanelli sy'n debyg iawn o ran dyluniad.
Cyflwynwyd y gadair i'r Parch. Ben Davies a oedd wedi ennill ei gadair cyntaf yn 1885 yn un ar hugain oed.