Roedd y Ladi Gymreig yn gwerthu Cymru i’r byd. Rhoddwyd ei llun ar bob math o gofroddion, gan gynnwys llestri, cwpanau a thywelion sychu llestri. Cludodd y rheilffyrdd don newydd o dwristiaid i Gymru ganol y 1880au. Roedd galw di-ben-draw am gofroddion. Cyfrannodd hyn oll at greu symbol cenedlaethol o’r wisg Gymreig.