Mae Cymru, a chennin yn ei gap, yn bwyta bara a chaws ac yn codi gwydraid o gwrw mewn llwncdestun. Dyma ddelwedd garedig o hunaniaeth a chyfeillach, ac mae'n bosibl iddi gael ei chreu ar gyfer un o gymdeithasau Cymry Llundain, fel Urdd yr Hen Frythoniaid, a sefydlwyd ym 1715 i helpu Cymry oedd mewn trallod a threfnu dathliadau Gŵyl Ddewi. Cafodd golyygfeydd Iseldiraidd cynharach yng ngolau cannwyll gryn ddylanwad ar yr artist.