Stôl â choesau wedi'u turnio o bren onnen. Crewyd gan William Rees, Dyffryn Teifi, dechrau'r 1900au.
William Rees o Aber-banc oedd turniwr pren olaf ei linach. Creu offer pren ar gyfer y gegin a’r llaethdy oedd ei arbenigedd – powlenni, sletennau llaeth, llestri caws, llwyau a lletwadau. Roedd William Rees yn gwerthu’i gynnyrch mewn ffeiriau a marchnadoedd lleol. Ond erbyn y 1930au, prin oedd y galw am gynnyrch pren wrth i gerameg a gwaith enamel a fasgynhyrchwyd gymryd ei le. William Rees oedd y turniwr olaf i ennill bywoliaeth o’r grefft yn y sir.