Mat o wlân wedi ei fachu, a wnaed ym 1889 gan gapten llong, William George o Abergwaun, tra roedd ar fordaith yn meddwl am adref a’i wraig, Letitia. Roedd George wedi gweithio’r geiriau: HOME SWEET HOME | LETITIA | WILLIE | 1889 o fewn ei gynllun creadigol. Yn ôl yr hanes teulu, cafodd Willie ei longddryllio yng Nghulfor Magellan ym 1888, ond achubodd y mat a’i gwblhau y flwyddyn ganlynol.