Dresel â chloc. Mae’r darn wedi ei wneud o dderw, yn cynnwys casyn y cloc sydd â pediment gwddf alarch. Mae wyneb y cloc wedi ei baentio gydag enw’r gneuthurwr, 'Mos[es] Evans, LLANGERNIW’ a hefyd yr enw a’r dyddiad: 'JOHN LLOYD 1797'. Credir i’r dodrefnyn gael ei gomisiynu gan John Lloyd (1749-1815) Hafodunnos, Llangernyw, sir Ddinbych, ym 1797. Yr oedd yn gyfreithiwr ac yn gasglwr llyfrau, archifau, mapiau ag offer gwyddonol. Roedd yn Aelod Seneddol sir Y Fflint o 1797-99.