Breichled fylchgron o far aur yw hon ac iddi drawstoriad fflat, petryal, yn ymledu i derfynellau â thrychiad crwn. Mae tipyn o ôl traul ar y freichled. Fe’i darganfuwyd wedi’i thorchi yn soced bwyell efydd ond cafodd ei hagor allan gan y darganfyddwr a’i hadfer i ffurf breichled hirgron gan staff yn yr Amgueddfa Brydeinig.