Diystyriwyd y paentiad hwn fel gwaith dilys gan Turner ym 1956 ac eto yn y 1960au. Mae catalog Turner 1977 yn cyfeirio ato fel 'a deliberate attempt to imitate Turner's style".' Fodd bynnag, mae archwiliad technegol diweddar yn dangos ei fod yn cynnwys y pigmentau a ddefnyddiodd Turner - glas cobalt, gwyn plwm, gwyn, brown/melyn mars a fermiliwn. Er ei fod yn anorffenedig, mae'n gydnaws ag ymddangosiad paentiadau olew Turner ar raddfa fach.
Cafodd Turner gryn ysbrydoliaeth gan arfordir Caint, ac roedd yn ymwelydd cyson â Margate o'r 1820au ymlaen, diolch i ansawdd arbennig y golau. Dywedodd mai'r awyr uwchben Thanet yw'r hyfrytaf yn Ewrop.