Powlen Caergwrle
Darlun prin o long Oes yr Efydd yw Powlen Caergwrle. Credwn mai tonnau yw’r patrwm igam-ogam ar y gwaelod a rhwyfau yw’r trionglau hir. Roedd symbol y llygad yn amddiffyn morwyr. Tarianau’r morwyr dewr yw’r cylchoedd. Gwnaed y bowlen â siâl o Dorset, tun o Gernyw ac aur o Gymru neu Iwerddon. Cafodd ei rhoi ger afon Alun sy’n llifo i afon Dyfrdwy ac, yn y pen draw, i Fôr Iwerddon.