Roedd y crochan gwledda yma’n gallu dal tua 50 litr o gawl, digon i fwydo dros 100 o bobl. Roedd yn cael ei hongian dros dân gerfydd ei ddolenni yn ystod gwleddoedd arbennig. Creu tipyn o sioe oedd y bwriad. Roedd y dalenni efydd cain wedi’u bwrw â llaw a’u rhybedu at ei gilydd yn ofalus.
Roedd crochanau’n destun balchder ar draws Ewrop yr Iwerydd ac yn llestri gwledda hollbwysig. Cafwyd hyd i’r crochan yma wedi’i gladdu yng ngwaelod Llyn Fawr, ger y Rhigos yng Nghwm Cynon. Roedd yn rhan o gelc a gladdwyd yn y mawn.