Mae Deal yn edrych allan dros harbwr naturiol helaeth y Downs rhwng arfordir Caint a Thraeth Goodwin. Roedd yn orsaf bwysig a'r llongwyr yn enwog am eu medr a'u dewrder. Un o grŵp o frasluniau yw hwn o gychod hwylio mewn tywydd garw a beintiwyd tua 1835. Mae'n debyg ei fod yn eiddo i Mrs Booth a gadwai dŷ i Turner.