Ganed Tissot yn Nantes a bu'n astudio ym Mharis, ond treuliodd 1871-82 yn Lloegr. Mae iddo'i le yn y mudiad genre 'Bywyd Modern' Prydeinig yn ogystal ag ar gyrion Argraffiadaeth Ffrengig. Mae hwn yn un o gyfres o ddarluniau a ysbrydolwyd gan gelfyddyd Brydeinig y 18fed ganrif, sy'n ad-drefnu modelau mewn gwisgoedd a phropiau o flaen golygfa a welir drwy ffenestr lydan. Ym 1874 gosododd Tissot ffenestr felly yn ei stiwdio yn Llundain.