Ganed Sargent yn Fflorens i deulu Americanaidd a bu'n astudio yn yr Eidal a Pharis cyn ymsefydlu yn Llundain ym 1886. Erbyn troad y ganrif câi ei gydnabod fel peintiwr portreadau gorau Prydain. Roedd yn gyfaill mynwesol i H.B Brabazon (1821-1906), peintiwr lluniau dyfrlliw a ddaeth yn ddigon enwog yn y 1890au, yn bennaf drwy anogaeth Sargent. Prynodd Margaret Davies y darlun hwn o arwerthiant stiwdio'r arlunydd ym 1925.