Mae cannwyll yn bwrw golau dramatig ar y ferch wrth iddi agor caead y ffenestr. Mae ei dillad ar hyd y lle; a'i ffrog wedi'i datod i roi cip pryfoclyd o'i bronnau. Dehonglir motif gwraig wrth ffenestr yn aml fel putain yn denu cariadon o'r stryd yn hwyr yn y nos. Schalcken oedd un o arlunwyr mwyaf poblogaidd Dordrecht. Peintiwr portreadau ac arbenigwr ar olygfeydd golau cannwyll oedd Schalcken a fu'n byw yn bennaf yn Dordrecht, er iddo dreulio o 1692 i 1697 yn Lloegr. Daeth yn fyd-enwog am ei olygfeydd yng ngolau cannwyll gyda'r nos.