Daeth Monet i Lundain ym 1871 i ddianc rhag y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia. Mae'r olygfa hon yn dangos Pwll Llundain gyda'r Tollty ar y dde a Phont Llundain yn y cefndir. Magwyd Monet yn Le Havre ac yr oedd golygfeydd o'r môr yn destun rhyfeddod iddo. Byddai'n gweithio yn yr awyr agored, 'en plein air'ar ôl y 1850au. Ym 1868 meddai Emile Zola yn frwd: 'Mae wedi ei fagu ar laeth ein hoes...Mae'n caru gorwelion ein dinasoedd, y darnau llwyd a gwyn y mae ein tai yn eu ffurfio yn erbyn golau'r awyr.'