Daeth Landseer yn beintiwr anifeiliaid enwocaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn hoff arlunydd y Frenhines Victoria. Cafodd yr olygfa hon ei hedmygu'n fawr gan yr arlunydd Ffrengig Géricault yn yr Academi Frenhinol ym 1821. Mae'n dangos cw^n yr arlunydd. Mae Brutus, y daeargi gwyn, yn barod i neidio ar y llygoden sy'n gwthio'i thrwyn allan rhwng ystyllod y llawr. Mae Boxer, y daeargi Stafford, yn poenydio'r llygod marw a'r un fyw yn y gawell. Mae Vixen, y trydydd, yn edrych yn chwilfrydig ar y ffured. Mae gwregys wedi ei arddurno â phatrwm o lygod i'w weld yn y blaendir