Yma mae Jones yn canolbwyntio ar y llinellau o gymylau toredig, sy'n britho'r caeau â golau'r haul. Mor gynnar a 1772, roedd Thomas Jones yn peintio brasluniau olew yn yr awyr agored o amgylch ei gartref yn Sir Faesyfed. Roedd honno'n dechneg chwyldroadol yn ôl safonau'r dydd, pan fyddai arlunwyr yn peintio lluniau olew, yn ddiwahân bron, o dan do ac ar sail astudiaethau. Mae'n debyg fod y braslun hwn yn dyddio o 1776, y flwyddyn yr aeth Jones i'r Eidal. Wedi"i ryddhau o gyfyngiadau peintio i blesio'r cyhoedd, galluogodd astudiaethau preifat o'r fath iddo ddatblygu ymateb mwy uniongyrchol a greddfol i fyd natur.