Mae'r tyndra rhwng y dyn sy'n ceisio ffrwyno'i geffyl a'r ci sy'n cyfarth yn y cysgodion, yn dangos dawn Daumier wrth gyfleu symudiadau. Mae effeithiau cyferbyniol y golau a'r tywyllwch hefyd yn ychwanegu at y ddrama. Tra bod hwn yn ddigwyddiad cyffredin bob dydd - dynion yn mynd â'u ceffylau i dorri syched yn afon Seine - mae'r artist wedi ychwanegu rhyw egni a dirgelwch i'r darn.