Mae cysylltiad agos rhwng y gwaith hwn a pheintiad a arddangoswyd ym 1890 o dan y teitl 'Cwsg,' ac ysgythriad ym 1888 o dan y teitl 'Realaeth â Hud Breuddwyd'. Byddai Carrière yn aml yn ailadrodd ei hoff gyfansoddiadau, sy'n cynrychioli cyflwr emosiynol yn hytrach nag unigolion penodol. Ym 1906 meddai un o'r beirniaid am ansawdd ei waith: 'Yr enaid sydd yma heb unrhyw ddigwyddiadau ffurfiol, dynolryw yn cuddio o dan ffalster y bersonoliaeth unigol.' Prynodd Gwendoline Davies y darlun hwn ym 1914.