Ganwyd Whaite ym Manceinion, a bu'n mynychu Ysgol Gelf Manceinion ac Academi Leigh yn Llundain. O 1851 bu'n treulio llawer o'i amser ym Metws y Coed, lle bu'n cael ei annog gan David Cox. Roedd ar gyrion y cylch Cyn-Raffaelaidd, ac fe'i canmolwyd gan y beirniad John Ruskin ym 1859. Ym 1862 cychwynnodd ar ddarlun mawr o'r enw,'Gweledigaeth y Penydiwr,' yr oedd wedi ei ail-greu ar thema o 'Daith y Pererin,' ond gwrthodwyd hwn gan yr Academi Frenhinol ym 1865. Ym 1883 torrodd y peintiad yn bedair rhan (mae hon yn un ohonynt) ac ychwanegu ffurf y bugail sy'n cysgu.