Mae’r paentiad hwn yn un rhan o dri llun sydd wedi goroesi o baentiad pedair rhan sy’n adrodd naratif enfawr Gweledigaeth y Penydiwr a seiliwyd yn Nyffryn Conwy. Mae’n cyfuno disgrifiad cywir o natur a chyfriniaeth Gristnogol amlwg. Ar ôl i’r Academi Frenhinol wrthod y paentiad ym 1865, aeth Whaite ati i dorri’r gwaith yn bedwar darn ym 1883 ac ail-weithio arnynt.