Mae Thomas Mansel a'i ail wraig Jane Pole yn dal dwylo yn y portread dwbl yma. Mae ystumiau o anwyldeb fel hyn yn anghyffredin mewn portreadau Prydeinig cynnar. Y Mansels o Abaty Margam, Morgannwg, oedd un o deuluoedd cyfoethocaf y de. Adlewyrchir hyn yng ngwisg ac ystum y pâr. Roedd Thomas yn Aelod Seneddol dros Forgannwg ac yn ffigur amlwg yn Llys y Brenin Iago I. Peintiwyd y llun yma tua 1625 a gwelir gw^r a'i wraig yn dal dwylo. Hwyrach mai symbol o'u merch, Mary, yw'r blodyn Gold Mair sydd yn llaw'r Fonesig Mansel.