Mae thema'r milwr teithiol neu'r crwydryn yn gofyn am luniaeth mewn tafarn ar ymyl y ffordd wedi'i fabwysiadu o gelf gogledd Ewrop yr ail ganrif ar bymtheg a chyfnod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Roedd golygfeydd genre hanesyddol fel hyn yn gyferbyniad poblogaidd i luniau o fywyd modern, a ystyrid gan rai yn fwy soffistigedig ac addurnol.