Roedd brawd y gwrthrych, Tom, yn gyfaill ysgol i'r bardd S.T.Coleridge. Syrthiodd y bardd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad gyda Mary Evans (1770-1843) ar ôl iddo fod yn aros gyda'i theulu yn Llundain yn ystod ei wyliau cyntaf o Gaergrawnt adeg y Nadolig 1791. Ac yntau'n methu â sôn wrthi am ei serch, yn ystod haf 1794 'bu ond y dim iddo lewygu' wrth gael cipolwg arni'n gadael yr eglwys yn Wrecsam, lle'r oedd yn ymweld â'i nain. Cyflwynodd Coleridge y gerdd ganlynol, o'r enw 'The Sigh', iddi:
'And though in distant climes I roam,
A wanderer from my native home,
I fain would soothe the sense of Care,
And lull to sleep the Joys that were!
Thy image may not banished be -
Still, Mary! Still I sigh for thee.'
Cafodd Joseph Allen ei hyfforddi yn Ysgolion yr Academi Frenhinol a sefydlodd gryn enw iddo'i hun yng ngogledd-orllewin Lloegr. Mae sôn amdano yn Wrecsam ym 1798 a 1799.