Ganed yr arlunydd yn Strasbourg a symudodd i Baris ym 1869. Mae'r cyfansoddiad hwn o tua 1888 yn un o nifer o ddarluniau gyda themáu mamol sy'n defnyddio gwraig Carrière fel model. Er bod parch mawr iddo ac er ei fod yn un o gyfeillion Degas a Rodin, diflannodd ei enw da yn gyflym ar ôl ei farw. Roedd Gwendoline Davies yn arbennig o hoff o'r awyrgylch yn ei arddull. Prynodd y darlun hwn ym Mharis ym 1917.