Dechreuwyd cyfres Afon Tafwys yn ystod yr hydref 1899 a gaeaf 1900-01, o bumed llawr Gwesty'r Savoy, a chafodd ei chwblhau o'r cof yn Giverny ym 1902-04. Hon yw'r olygfa i fyny'r afon, o Bont Charing Cross a'r Senedd. Meddai Monet yn ddiweddarach: 'Dim ond yn y gaeaf... yr ydw i'n caru Llundain...heb ei niwl ni fyddai Llundain yn ddinas hardd.' Prynodd Margaret Davies y gwaith hwn ym 1913.