Yn y llun dyfrlliw hwn gan JMW Turner mae enfys liwgar yn hollti'r awyr, gan oleuo tŵr eglwys yng nghanol yr olygfa. Tu hwnt i'r enfys, mae'r awyr yn llawn cymylau glas a phinc gwlannog. Wyddon ni ddim os yw'r siapau ailadroddus yn y blaendir yn cynrychioli cae o laswellt tal, neu symud rhyddmig tonnau ar lan y môr. Mewn diwylliannau ledled y byd mae'r enfys yn symbol o obaith am ddyddiau gwell i ddod.