Cafodd llong wreiddiol S.S. BALA ei chwblhau ar gais Evan Thomas, Radcliffe & Co., Caerdydd gan William Gray & Co. o West Hartlepool ym 1884. Ym 1903, cafodd ei gwerthu i gwmni Glanhowny Steamship, Caerdydd, a'i hailenwi'n S.S. GLANHOWNY ar ôl cartref un o'r perchnogion newydd, y Capten Thomas Owen o Aberporth. Fe suddodd ar ôl damwain gyda stemar Almaenaidd yn Antwerp ym 1907.