Roedd Paul Signac yn hwyliwr brwd fyddai'n teithio ar hyd arfordir Ffrainc yn creu darluniau dyfrlliw. Hoffai arbrofi drwy ddefnyddio llyfiadau bach o liw llachar yn ei olygfeydd o'r môr a harbyrau bach. Yn y paentiad hwn mae'r môr a'r awyr yn gyfuniad o liwiau glas, pinc, porffor, melyn ac oren wrth i'r machlud ar y gorwel adlewyrchu yn y dŵr islaw.