Saif y felin dros raeadr ar yr afon Orbe yn y Swistir, ger y ffin â Ffrainc. Mae gwedd y paent yn awgrymu afon fyrlymus. Roedd gan Courbet syniadau chwyldroadol am gelf a gwleidyddiaeth y cyfnod, a bu'n brotestiwr allweddol yn ystod yr anhrefn sifil a gododd yn dilyn Rhyfel Ffrainc a Phrwsia rhwng 1870 ac 1871. Treuliodd ddiwedd ei oes yn alltud.