Cloc hircas gyda wyneb pres a wnaed gan Samuel Roberts o Lanfair Caereinion, sir Drefaldwyn ym 1776. Mae'r cloc yn unigryw ac yn arddangos crefft Roberts fel gwneuthurwr oedd yn creu pob darn o'r mecanwaith. Cafodd y casyn derw ei wneud gan John Lloyd, saer o Lanfihangel-yng-Ngwynfa. Mae'n cael ei adnabod fel 'cloc Wern Lwyd' gan mae yn y ffermdy yma ym mhentref Aberriw y cafodd ei ddarganfod yn y 1940au.