Dyma ddetholiad o luniau a phortreadau hanesyddol o bobl o gasgliad Amgueddfa Cymru. Mae lluniau o fonedd a thirfeddianwyr, gweithwyr, gwleidyddion, cerddorion, artistiaid ac awduron i gyd i'w gweld yn yr oriel hon.
Dros amser daeth artistiaid yn fwyfwy awyddus i adlewyrchu cymeriad a phrofiadau bywyd pobl Cymru. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trawsnewidiodd datblygiad ffotograffiaeth natur portreadu drwy ddarparu ffordd rad a chymharol gyflym o greu delwedd gywir.