O’r torluniau pren cynharaf i ffotograffiaeth fodern, mae delweddau wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu i ddisgrifio byd natur.
Dros y canrifoedd, mae artistiaid hanes byd natur wedi cynhyrchu darluniau a oedd yn cael eu gwerthfawrogi cymaint am eu harddwch ag am eu cyfraniad at faes gwyddoniaeth. O ganlyniad, daeth printiau a llyfrau hanes byd natur yn eitemau casgladwy ac roedden nhw yr un mor debygol o gael eu canfod yn addurno waliau cartrefi ffasiynol ag ar silffoedd llyfrgell gwyddonydd. Rydyn ni wedi dewis amrywiaeth o ddelweddau o gasgliadau llyfrau, printiau a phapurau prin y Llyfrgell ac adran y Gwyddorau Naturiol i chi eu mwynhau.