Mae casgliadau plentyndod Amgueddfa Cymru yn llawn arteffactau sy'n rhoi blas o fywydau plant Cymru o'r gorffennol pell hyd heddiw. Mae eitemau'n amrywio o wrthrychau ymarferol bob dydd fel crud a phram i deganau a gemau cartref gwerthfawr. Yma fe welwch chi ddetholiad o ffotograffau a phaentiadau hanesyddol sy’n cynrychioli’r thema hon.