Mae gan Amgueddfa Cymru dros 600,000 o ffosiliau a 40,000 o fwynau yn ei chasgliadau, sy'n cwmpasu dros 500 miliwn o flynyddoedd o gynhanes, ac yn arddangos trysorau naturiol godidog o Gymru a'r byd tu hwnt. Mae ffosiliau'n dangos bydoedd hynafol a bywydau'r gorffennol i ni, o'r anifeiliaid dirgel cyntaf oedd yn byw yn y cefnforoedd dros hanner biliwn o flynyddoedd yn ôl i famothiaid gwlanog a rhyfeddodau eraill Oes yr Iâ. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys trilobitau, amonitau, ichthyosoriaid, cnwp-fwsogl anferth, y mamaliaid cynharaf un a’r deinosor Cymreig, y Dracoraptor. Mae trysorau ein casgliad mwynau’n cynnwys aur Cymru sy'n enwog ledled y byd, mwynau metel a ysgogodd y chwyldro diwydiannol a chrisialau lliwgar hardd o malachit, asurfaen, brwcit, cwprit, a fflworit.