Mae casgliad ffotograffiaeth Amgueddfa Cymru yn cynnwys rhai o'r lluniau cynharaf a gafodd eu tynnu erioed yng Nghymru. Mae llawer o'r rhain yn rhan o gasgliad John Dillwyn Llewelyn gyda ffotograffau sy'n dyddio o ddiwedd y 1840au a dynnwyd gan deuluoedd Dillwyn Llewelyn a'u cyfoeswyr fel Calvert Richard Jones a Roger Fenton.