Mae ein casgliad hardd o baentiadau, ffotograffau a darluniau wedi'u dewis o blith y casgliad mwyaf a mwyaf cynhwysfawr o arteffactau daeareg, sŵoleg a botaneg Cymru yn y byd. Mae'r rhain yn cynnwys cofnod unigryw o hanes byd natur Cymru sy’n olrhain newid esblygiadol ac amgylcheddol dros gyfnod o 700 miliwn o flynyddoedd. Fe welwch chi ddelweddau o blanhigion, blodau, infertebratau, ffosiliau, fertebratau, creigiau, mwynau a llawer mwy.