Mae traddodiad morwrol cryf Cymru i’w weld yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru, sy’n cynnwys portreadau o longau a delweddau o’r porthladdoedd a alluogodd diwydiannau Cymru i gyrraedd bob cwr o’r byd.
Roedd arlunwyr portreadau llongau yn gweithio yn y rhan fwyaf o’r porthladdoedd mawr, ac yn cynhyrchu paentiadau oedd wedi’u harchebu ar gyfer swyddogion a chriwiau llongau cyn i ffotograffau o longau ddisodli’r paentiadau o longau. Roedd morwyr oedd yn comisiynu portreadau o longau yn gofyn am fanylder a chywirdeb manwl. Mae’r portreadau llongau hyn i’w gweld yma.
Yn ystod y 1970au a'r 1980au, bu staff Amgueddfa Cymru yn tynnu lluniau o amgylchedd Bae Caerdydd a oedd yn newid yn gyflym cyn y newidiadau mawr a’r prosiectau adeiladu newydd. Mae’r lluniau hyn i’w gweld yma.