Pan ddangoswyd y darlun hwn yn yr Academi Frenhinol ym 1778, meddai un beirniad cyfoes yn llawn edmygedd 'mae'r dyluniad yn ddi-fai, y gwisgoedd wedi eu cyfleu'n ddymunol, y golau wedi ei daenu'n hyfryd, y pellter yn berffaith a'r lliwiau'n eofn, yn rymus ac yn gynnes. Rhydd y testun ymdeimlad diwrnod cynnes o haf...Os oes unrhyw fai ar y darn, darluniad y ffigyrau yw hwnnw.' Mae ffigyrau Wilson, yn ôl ei arfer, yn hir yn null Claude.