Saif Elne hanner y ffordd rhwng Perpignan a Collioure. Dyma'r olygfa o gwmpas gorsaf y rheilffordd ac mae'n debyg i'r llun gael ei wneud tra oedd y trên wedi aros ar siwrnai. Mae'r blociau gwastad o liw yn ein hatgoffa o Matisse a'r Fauves, a fu hefyd yn peintio yn Provence.