Mae cadair Eisteddfod Genedlathol Y Rhyl 1953 yn dilyn cynllun cadeiriau Ellis Berwyn Evans (y cyntaf ym 1947 ym Mae Colwyn) gyda breichiau pren cerfiedig a gorchudd lledr yn cynnwys draig goch ar y cefn. Yr oedd y gadair yn rhodd gan P T Trehearn o'r Rhyl ac fe'i gwnaed o dderw a roddwyd gan gwmni J R Gordon, Caer.
Ernest Llwyd Williams oedd enillydd y gadair am ei awdl ar y thema 'Y Ffordd'.