Mae'r darlun hwn yn gymar i 'Golygfa ar Afon Nedd ym Morgannwg. 'Mae'r ffaith fod y cwch yn cario ceffylau a theithwyr yn awgrymu mai Llansawel yw'r lle. Ym 1815 ysgrifennodd Thomas Rees fod 'natur a chelfyddyd...yn cydweithio i roi gerbron y sylwedydd olygfeydd rhyfeddol o hudolus' yn Llansawel.