Mae'r fugeilies ifanc yn eistedd mewn myfyrdod tawel, a'i phraidd sy'n pori gerllaw yn angof. Mae ei hosgo yn debyg i gerflun clasurol, ond yn realistig oherwydd ei dillad syml, ei lliw haul a"i dwylo mawr ag ôl gwaith arnynt. Llwyddodd paentiadau Millet i newid lle gweithwyr gwledig mewn celf, gan ganolbwyntio ar faich a chaledi'r bywyd gwerinol - gan beri iddynt ymddangos yn annibynnol ac yn aml yn eiconig.