Saif y bardd olaf ar ymyl clogwyn â thelyn yn ei ddwylo. Mae'n melltithio'r goresgynwyr Seisnig cyn neidio i"w farwolaeth. Mae'r peintiad hanesyddol dramatig hwn wedi dod yn eiconig i Gymru. Mae'n seiliedig ar gerdd Thomas Gray 'The Bard, 'ac mae'n adrodd hanes y gyflafan chwedlonol pan laddodd Edward I y beirdd Cymreig. Roedd beirdd yn uchel eu parch yng nghymdeithas Gymreig y cyfnod, ac ystyriwyd mai nhw oedd disgynyddion y derwyddon Celtaidd. Mae Jones yn gwneud y cysylltiad hwn trwy roi nodweddion derwyddol - barf hir wen a mantell gycyllog - i'w Fardd. Pwysleisia'r cylch cerrig sydd yn y cefndir, sy'n seiliedig ar Gôr y Cewri, hynafiaeth y derwydd. Dyma un o beintiadau cynnar Jones yn y dull mawreddog, lle mae'n defnyddio'r dirwedd fel cefndir ar gyfer golygfa o hanes, llenyddiaeth neu fytholeg. Ystyriodd Jones fod y darlun yn 'un o'r gorau a beintiais erioed'.