Bu Rosetti yn astudio gyda Ford Madox Brown ac yr oedd yn un o sylfaenwyr y Frawdoliaeth Gyn-Raffaïlaidd ym 1848. Byddai'n ymchwilio i fyd rhamantaidd cyfriniaeth. Fair Rosamund (c. 1176) oedd meistres Harri II. Mae i'w gweld yma y tu ôl i ganllaw ym Maenor Frenhinol Woodstock. Yn ôl y chwedl yr oedd y llinyn sidan coch yn ei llaw yn rhybuddio bod ei chariad gerllaw. Roedd yr eisteddwraig, Fanny Cornforth, yn fodel yn aml i Rossetti. Daeth i gadw tŷ iddo ar ôl marw ei wraig Elizabeth Siddall ym 1862.