Darlun o flodau haf nodweddiadol o'r gyfres ryfeddol o ddarluniau bywyd llonydd, a werthai'n bennaf ar y farchnad Brydeinig. Dyna sut y cynhaliodd yr arlunydd ei hun am y rhan fwyaf o'i yrfa. Er ei fod yn edmygu Manet yn fawr iawn ac yn gyfaill i Morisot, Renoir a Monet, byddai Fantin-Latour yn arddangos yn rheolaidd yn y Salon a'r Academi Frenhinol o dechrau'r 1860au, a beirniadodd yr arddangosfa Argraffiadol gyntaf ym 1874. Roedd y gwaith hwn yn eiddo i WC Alexander, a oedd yn gyfaill i Whistler ac yn ei noddi.