Telerau Ac Amodau

Darllenwch y Telerau ac Amodau hyn yn ofalus.

  • Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn berthnasol i bob pryniant drwy Delweddau Amgueddfa Cymru.
  • Mae derbyn y Telerau ac Amodau hyn a defnyddio deunydd a lawrlwythwyd o Delweddau Amgueddfa Cymru yn golygu eich bod yn derbyn telerau’r drwydded CC0 a CC BY-SA, yn ogystal â’r Telerau ac Amodau hyn a’ch cytundeb i gydymffurfio â nhw.
  • Caniateir defnyddio delweddau cydraniad canolig (hyd at 4000px) o dan delerau’r drwydded CC0 neu CC BY-SA, fel y nodir ar bob delwedd ar adeg ei lawrlwytho.

1. Lawrlwytho delwedd cydraniad canolig (hyd at 4000px)

1.1. CC0 1.0 Cyflwyno i’r Parth Cyhoeddus Cyffredinol

  • Crynodeb o’r telerau yw hwn. I weld y manylion yn llawn, ewch i wefan Comin Creu.
  • Mae CC0 yn galluogi ail-ddefnyddwyr i ddosbarthu, ailgymysgu, addasu ac adeiladu ar y deunydd mewn unrhyw gyfrwng neu fformat, heb unrhyw amodau.
  • Nid oes rhaid i chi roi cydnabyddiaeth i ni nac i’r awdur gwreiddiol, ond gofynnwn i chi roi cydnabyddiaeth i ni lle bo modd drwy ddefnyddio’r testun hwn: Drwy ganiatâd Amgueddfa Cymru. Mae hyn yn helpu i ledaenu’r gair am ein Polisi Mynediad Agored.
  • Mae rhagor o wybodaeth am arferion da o ran rhoi cydnabyddiaeth a defnyddio’r parth cyhoeddus i’w chael yng Nghanllawiau Defnyddio Parth Cyhoeddus Europeana.

1.2. CC BY-SA 4.0 (Attribution-ShareAlike)

  • Crynodeb o’r telerau yw hwn. I weld y manylion yn llawn, ewch i wefan Comin Creu.
  • Mae CC BY-SA yn galluogi ail-ddefnyddwyr i ddosbarthu, ailgymysgu, addasu ac adeiladu ar y deunydd mewn unrhyw gyfrwng neu fformat, cyn belled â bod priodoliad yn cael ei roi i’r crëwr. Mae’r drwydded yn caniatáu ar gyfer defnydd masnachol. Os ydych chi’n ailgymysgu, yn addasu, neu’n adeiladu ar y deunydd, rhaid i chi drwyddedu’r deunydd sydd wedi’i addasu o dan yr un telerau.
  • Mae CC BY-SA yn cynnwys yr elfennau canlynol:

BY: Rhaid cydnabod y crëwr. Rydyn ni’n ystyried bod priodoliad wedi’i roi pan ddefnyddir y llinell ganlynol o gydnabyddiaeth: Drwy ganiatâd Amgueddfa Cymru. Rhaid dangos y gydnabyddiaeth hon ochr yn ochr ag unrhyw atgynhyrchiad o’r ddelwedd.

SA: Rhaid rhannu addasiadau o dan yr un drwydded: CC BY-SA.

2. Data personol

  • Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth bersonol y mae’n ei rheoli yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018, a bydd yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu rhag mynediad heb awdurdod, ei cholli, ei datgelu, neu ei dinistrio.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y Polisi Preifatrwydd, sydd hefyd yn berthnasol i’ch defnydd o Delweddau Amgueddfa Cymru.