Wedi’i eni yng Nghaerdydd yn 1891, neilltuodd Cyrnol Harry Morrey Salmon lawer o’i amser hamdden i dynnu ffotograffau o adar gwyllt yng Nghymru. Datblygodd a hyrwyddodd amrywiol dechnegau newydd. Roedd hefyd yn eiriolwr dros gadwraeth natur, gan helpu i achub twyni tywod Cynffig, ger Pen-y-bont ar Ogwr, a’r barcudiaid cochion oedd yn weddill ar y pryd ym Mhrydain.
Arweiniodd ei frwdfrydedd, ei dechnegau arloesol a’r delweddau a ddeilliodd o hynny at gael ei alw’n ‘dad ffotograffiaeth adar Prydain’. Mae ei waith yn cynnwys rhai o’r ffotograffau cynharaf a dynnwyd fel cofnodion gwyddonol o adar Prydain.
Mwynhau'r casgliad hwn? Mae mwy i'w weld yma Casgliadau Arlein | Museum Wales